Croeso i Wely a Brecwast Fferam Y Llyn
Mae croeso cynnes Cymreig yn eich disgwyl yn Fferam y Llyn, gyda’r perchnogion Llyr a Laura Hughes yma i sicrhau eich bod yn mwynhau eich harhosiad.

Fferm ddefaid a chig eidion 400 erw yw Fferam y Llyn, gyda golygfeydd gwych o’r Llyn cyfagos (Llyn Alaw), cefn gwlad Môn a pharc cenedlaethol Eryri. Wedi ei leoli mewn man gwledig tawel r ydym yn cyfuno llety cyfforddus, modern o safon uchel gyda naws draddodiadol sydd i’w ddisgwyl ar fferm. Dyma’r lle perffaith i ymlacio, gorffwys a darganfod yr arfordir o 125 milltir sy’n amgylchynu Môn.

Yng nghanol yr ynys, mae’r fferm mewn lleoliad gwych i wneud yn fawr o’ch harhosiad ar Ynys Môn. Mae yma lu o draethau tawel a llawer o weithgareddau awyr agored ar gael i ymwelwyr. Gyda’r holl lwybrau cyhoeddus, llwybrau marchogaeth a beicio mae digon i gadw cerddwyr beicwyr a’r rhai sy’n hoffi marchogaeth yn brysur. Heb anghofio pysgotwyr wrth gwrs, mae dewis o bysgota môr, oddi ar y traethau, pier, ac yn yr amrywiol lynnoedd a chronfeydd. Mae digon o ddewis yma i bawb.